Sunday, July 12, 2015

Teithiau Medi 2013 - Gorffennaf 2014

Mwmbls 8 Medi 2013 Es gyda John N. a Rob ar y daith hon, o'r Mwmbls i'r Pwll-du ac yn ôl. Yn anffodus ar y ffordd yn ôl aeth John i'r dŵr ddwywaith. Ymarfer achub defnyddiol. Ynys Bŷr ~4 Hydref 2013 Dim ond Rob oedd gyda fi ar y daith hon. Cychwynnom o Ddinbych-y-pysgod a mynd clocwedd o gwmpas yr ynys. Cwrddom â Wanye a ffrind iddo pan oeddem yn croesi. Roedden nhw wedi gwersylla'r noson gynt ar draeth ar ollewin yr ynys. Cododd y gwynt wrth i ni fynd ymlaen ac roedd yn eitha garw yn troi yng nghornel de-orllewin yr ynys. NDE yn ôl Rob! Ynys Echni 29 Medi 2013 Es ar fy mhen fy hun y tro hwn. Roedd y gwynt o'r dwyrain a chyda llanw uchel hefyd roedd yn rhy arw i mi lanio ger y lanfa ar ddwyrain yr ynys. Es i draeth y gorllewin. Ar yr ynys roedd yn ddrwg gen i ddeall fod Matt y warden a gweddill y staff yn gadael ymhen pythefnos. Pont Senni 20 Hydref 2013 Afon Cleddau 1 Tach 2013 Afon Ysgir ~Sul 11 Tach Afon Afan 21 Rhag 2013 Wysg, Tal--bont ~5 Ion 2013 Ysgir ~ 3 Chwefror 2013 Traeth Mawr Porthclais 31 Mai ~16 Gorff Môn

Saturday, October 19, 2013

Yr Alban, 23-30 Awst 2013

Ar Ddydd Gwener, gyrrais i Fryste i gwrdd â Wayne am 08.30 ac fe adawom ei dŷ ryw dri chwarter awr wedyn, ond gyrru i siop offer ceufadio http://www.canoeandkayakstore.co.uk/  
cyn cychwyn ar y daith go iawn. Gyrru drwy'r dydd wedyn, gan rannu'r gyrru rhyngom, nes stopio am beint yn yr Oyster Inn ger pont Connell. Ymlaen â ni wedyn a chyrraedd y maes gwersylla i'r de o Oban tra oedd yn olau o hyd tua 19.00. Codi fy mhabell wedyn cyn mynd i gymdeithasu gyda'r 9 aelod o Glwb Ceufadio Gogledd Avon oedd yn ffurfio gweddill y criw.

Diwrnod 1, Dydd Sadwrn: Taith o gwmpas Ynys Kerrera

Diwrnod 2: cylchdaith arall, o Oban, i lawr o dan Bont yr Iwerydd, heibio i Cuan, lan i Easdale ac yn ôl.




Pont dros yr Iwerydd

Diwrnod 3: o Loch Etive i'r gwersyll


Mae Ralph, hyfforddwr Clwb Ceufadio Gogledd Avon a drefnodd y teithiau uchod wedi ysgrifennu blog amdanynt, yma: http://www.northavoncanoeclub.org.uk/Trip-Reports/Sea-Kayaking-Trips/Scotland-2013 (ac rwyf wedi dwyn y llun cyntaf uchod o'i luniau a'i gynnwys yma eto).

Diwrnod 4: Ynys Iona

Roedd yn eitha hwyr erbyn i ni gyrraedd Fidden, gyferbyn ag Ynys Iona. Erbyn codi'n pebyll a pharatoi'r cychod, roedd yn chwe o'r gloch arnom yn mynd ar y dŵr. Gydag amcangyfrif wedi ei seilio ar y daith a gofnodwyd yn y llyfr teithiau ceufadio'r Alban, sef naw milltir i fynd o gwmpas ynys Iona, gallem ddisgwyl y byddai'n naw o'r gloch cyn i ni fod yn ôl - a byddai'n tywyllu erbyn hynny. Heblaw un stop yn syth wedi i ni groesi i'r ynys i Wayne wisgo cag, ni stopion ni. Roedd yn arw ar ochr orllewinol yr ynys ac roeddwn yn ddigon balch pan welais yr ynys fawr o'n blaen eto. Er i ni geisio talu sylw ar gychwyn y daith fel y byddem yn adnabod ein man cychwyn, roeddwn yn dibynnu ar y GPS, er nad oedd yn hollol dywyll, i ddod o hyd i'r man o ble roeddem wedi cychwyn.
Mynd heibio i fynachdy Iona
Yr olygfa wedi cyrraedd yn ôl i'r gwersyll
Golygfa wrth adael y gwersyll y diwrnod wedyn

Diwrnod 5: i Staffa ac wedyn i Gometra.

Roedd yn eithaf garw wrth fynd heibio i i Ynys Colonsay Fach a ni'n padlo i mewn i wynt F4. Pan gyrhaeddom y cei ar Staffa cerddon ni i mewn i'r ogof gerllaw gan feddwl taw honna oedd ogof Fingal, gan mai dyna ddangoswyd ar y map. (Wedi dod adre, sylweddolais taw'r ogof nesaf, am y gornel, oedd ogof Fingal. Gan fod y môr mor arw, byddem ni wedi methu padlo i mewn i honna beth bynnag). Gwelsom ddau heulforgi yn nofio o gwmpas cwch hwylio ddaeth i angori ger y cei. Ar ôl cerdded i ben yr ynys, aethom allan at un o'r morgwn nes ein bod o fewn ryw bedair llathen iddo.
Staffa
Roedd yn arw wrth i ni badlo ar hyd ochr orllewinol Staffa.
Wrth i ni nesáu at Gometra, gwelom ddyffryn a dyfalu y byddai traeth wrth ei droed ac wedi mynd yn nes eto, dealll ein bod yn gywir wrth iddo ddod yn amlwg bod traeth tywod yno.

Diwrnod 6: o Gometra yn ôl

Roeddem yn sylweddoli yn y bore y gallem fod wedi cael ein dal ar y traeth pe bai'r syrff wedi codi'n fwy dros nos. Roedd ambell set gweddol o faint yn dod i mewn. Unwaith i ni gyrraedd arfordir gorllewin yr ynys roedd y môr yn eitha garw. Es i ymhellach o'r lan ond parhaodd Wayne i fynd yn weddol agos at y creigiau. Daeth un don i mewn a bron iawn â'i ddal!
Unwaith i ni droi'r gornel a dechrau padlo i'r dwyrain roedd fel llyn eto. Roedd y tywydd yn newid yn gyson: niwl yn clirio i awyr las ac yn ôl. Troion i mewn i aber i gael cinio ac wrth i ni setlo hedfanodd dau eryr i ffwrdd. Ar ôl cinio roedd nifer o ynysoedd a llawer o forloi. Stopion ni ger lanfa'r fferi, ymweld â bwthyn Sheila, a chael diod yn y caffi: coffi i mi a chwrw (wrth gwrs) i Wayne.


Yr olyfga o'r gwersyll: Staffa ar y dde
Wayne'n tynnu ei babell i lawr.


Wayne'n edrych ar fwthyn Sheila, ynys Ulva

Y tu mewn i fwthyn Sheila
Hanes Bwthyn Sheila

Padlon ni ymlaen eto a glanio i ymestyn ein coesau ar Inch Kenneth.

Yr olygfa o Inch Kenneth
Bron yn ôl, padlon ni ymlaen eto ac roeddem bant o'r dŵr am tua 17.00. Darganfyddom fod y fferi olaf yn ôl i'r tir mawr yn gadael am 19.00. Gyrru i'r fferi a chyrraedd tua 18.40 a chael lle arno, er nad oeddem wedi bwcio lle. Gadael Oban am tua 20.15 a gyrru drwy'r nos gan gyrraedd yn ôl yng Nghaerdydd tua 06.00.

Tuesday, October 15, 2013

Ynys Echni. Dydd Sul 29 Medi 2013

Es ar fy mhen fy hun y tro hwn. Roedd yn F3-4 o'r dwyrain ac er ei fod yn llanw bach (8.4m) roedd y gwynt yn codi'r tonnau fel bod y daith i'r ynys yn eithaf garw. Pan gyrhaeddais ceisiais lanio ar y traeth ger y jeti fel arfer ond roedd yn rhy arw. Glaniais a thynnu'r spraydeck ond fe'm daliwyd gan y don nesaf a thynnwyd y cwch yn ôl i'r môr. Rhoddais y ffedog yn ôl yn ei le'n sydyn a rhoi'r gorau i'r ymdrech. Padlais yn ôl y ffordd yr oeddwn wedi dod, ar hyd ochr ogleddol yr ynys, a glanio ar y traeth caregog ar yr ochr orllewinol. Ces damaid i fwyta fan honno cyn crwydro lan i'r ffermdŷ a mynd i mewn. Gwyddwn fod pobl yno'n syth gan fod bwyd poeth yn sefyll ger y stôf ond er gweiddi helo ddaeth neb. Es allan eto a mynd tua'r drws cefn a chwrdd â Matt yr warden oedd yn dod i chwilio am y llais.

Es i mewn i'r ffermdŷ gyda Matt, a chwrdd â'r unig wirfoddolwr oedd ar ôl ar yr ynys, Harriet. Roeddwn wedi darllen ar Twitter yn ddiweddar fod y gweddill wedi ymadael â'r ynys. Eglurodd Matt y bydden nhw hefyd yn ymadael ymhen un diwrnod ar bymtheg gan fod y cyngor yn cau'r ganolfan. Mae Matt wedi bod ar yr ynys ers pum mlynedd ac fe fyddaf yn gweld ymweld â'r ynys heb gwrdd ag e yno yn chwith iawn. Yn ffodus iddo, mae wedi cael swydd arall, ar ynys arall, ynys Walney yng ngogledd Lloegr. Efallai y dylwn ymweld ag e yno rywbryd.

Es am dro o gwmpas yr ynys a gweld llawer o gwningod. Rhaid fod myxomatosis ar drai yno eto.

Ar y ffordd yn ôl roedd hi'n daith haws o lawer gyda'r gwynt ar fy nghefn a'r tonnau wedi diflannu bron yn llwyr. Taith wych unwaith eto.

Sunday, September 1, 2013

Moelfre, Dydd Sadwrn 10 Awst 2013

Es o Draeth Bychan at Ddulas ac yn ôl. Roedd yn ddiwrnod agored y RNLI ym Moelfre a llawer o gychod o gwmpas. Trydarais: 'A'm maddeuo, wedi achub beiciwr modur dŵr gwympodd oddi ar ei feic ger Moelfre heddiw. Gas gen i feiciau modur dŵr.' https://twitter.com/hywelm/status/366227242143072256

Aberporth i Boppit, Dydd Mercher 7 Awst 2013

Padlais gyda Colin a Sue a Derek. Doedd hi ddim yn dwym iawn ac angen cag llwys byr arnaf. Gofynnodd menyw i mi a oedd ein ceufadio ar gael i'w llogi yn y Mwnt!
https://maps.google.co.uk/maps/ms?msid=203412124956633915799.0004e48fd808c8f85bb0e&msa=0&ll=53.34676,-4.568853&spn=0.007494,0.01929

Porth Swtan, Dydd Sul 21 Gorff. 2013

Roeddwn wedi mynd i Borth Swtan gan feddwl mynd o gwmpas Trwyn Cemlyn ond roeddwn wedi gwneud smonach o gyfrifo'r llanw a phan gyrhaeddais roedd y llanw wedi troi i'r gogledd yn barod. Erbyn i mi nesáu at Ynys y Mydlyn roedd yn llifo'n gryf. Troais yn ôl tra oeddwn i'n gallu. Es i lawr heibio i Borth Swtan hyd at ac heibio i'r creigiau i'r de cyn dychwelyd i'r dechrau.