Thursday, August 31, 2006

Symposium Gogledd Uist

Es i'r symposium yng Ngogledd Uist. Gadawom Ynys Môn am 8.30 Ddydd Mawrth 22 Awst a gyrru i Glencoe. Cyrhaeddom tua 17.15 lle gwersyllom ar be y llyn. Aethom ymlaen i Skye y diwrnod wedyn lle ces y fferi am 18.00 o Uig a chyrraedd Lochmaddy am 19.45.

Y teithiau:

Dydd Iau: o Fae y Caws http://www.multimap.com/map/browse.cgi?client=public&X=97000&Y=873000&width=500&height=300&gride=&gridn=&srec=0&coordsys=gb&db=GB&addr1=&addr2=&addr3=&pc=&advanced=&local=&localinfosel=&kw=&inmap=&table=&ovtype=&keepicon=&zm=0&scale=25000&up.x=188&up.y=7

i sarn ynys Berneray.

Dydd Gwener: o'r traeth yng ngwarchodfa y RSPB yn Balranald i Ynysoedd y Mynaich.

Dydd Sadwrn: o Locheuphoirt i Loch na Madadh. Daeth hofrennydd gwylwyr y glannau i ymarfer achub pobl. Aethom ymlaen i Fae y Caws yn y prynhawn.

Dydd Sul: o'r traeth uwchben Traig Ear i Boreray, wedyn drosodd eto i arfordir gogledd Berneray, cyn mynd o gwmpas yr ynys i'r gogledd ddywrain i gyrraedd y sarn eto.

Des ar draws y safle canlynol wrth bori ar y we. Mae'n cynnwys llwythi o luniau o draethau yn Ynysoedd Heledd, gan gynnwys rhai o Boreray a Berneray:

http://silversprite.wordpress.com/tag/outer-hebrides/page/2/

Saturday, August 19, 2006

Afon Menai, 13 Awst

Taith awr a hanner o hyd, yn erbyn y llanw a gwynt F3-4, o'r lanfa o flaen Gwesty'r Gazlle, goddereb â phier Bangor, i gyfeiriad Penmon. Tynnais mâs ar y traeth lle mae'r ffordd yn dod i ymyl y dwr.

Monday, July 17, 2006

Trwyn Du i Landdona, 14 Gorffennaf

Rwyf wedi cymryd saib o ganwio yn ddiweddar mewn ymgais i ddod yn iach: mae f'ysgwydd a'm penelin wedi bod yn brifo. Ond gwnes daith fach prynhawn Dydd Sadwrn diwethaf. Roedd slac penllanw i fod tua 14.15 ger y Trwyn Du, Penmon, a'r gwynt o'r dwyrain. Gwaetha'r modd pan gyrhaeddais tua'r amser yna roedd y gwynt hefyd yn eitha cryf, ffors 4 byddwn yn dweud. Mentrais i lawr i Drwyn Dinmor ac roedd y gwynt wedi gostegu tipyn pan ddes yn ôl i draeth Trwyn Du, felly bant â fi. Gadewais am 4 a byddwn wedi cyrraedd yn hawdd o fewn awr ond fy mod tua'r diwedd wedi cymryd f'amser a mynd i archwilio rhai o'r holltau neu ogofeydd yn y creigiau.

Tuesday, June 20, 2006

Teithiau - Gwy (11fed), Rest Bay (13eg), Ynys Sili (18fed)

Cofnodi y teithiau yma. Ar yr 11eg, bues ar Afon Gwy gyda Phadlwyr y Ddraig: lefel y dwr yn isel iawn, ond doedd dim llawer o grafu'r gwaelod. Syrffio wedyn nos Fawrth y 13eg ym Mhorthcawl gyda John C., Dave C., Chris W. a Paul Mac a Nick yno hefyd. Ac wedyn fore Dydd Sul ar y môr gyda Grant ac Emlyn - y tro cyntaf i Emlyn fynd ar y môr. Bore braf hamddenol.

Sunday, June 4, 2006

Taith i Awstria, 27 Mai - 3 Mehefin

Es gyda chanolfan Arthog, gan gwrdd â'r bws yn Dover i ddal fferi 1.00 ar fore Dydd Sadwrn. Ar y daith gyda fi roedd Andy a Dave o Arthog, Chris C. ac Alex o Gaerdydd, Karl a Louise B, Bev, Louise T., Matt a Dan.

Arhosom yn Bezau yn yr Almaen ar nos Sadwrn a phadlo Afon Bregenze Ache ar ddydd Sul gan roi i mewn ger y gwersyll.

http://www.kajaktour.de/bregenzer.htm

Roedd yr afon yn llifo yn weddol cyflym wrth y gwersyll ond ar ôl inni gario heibio i'r orsaf drydan gyntaf ychydig o ddwr oedd yn yr afon a buon yn gorfod crafu trwy ddwr bas yn aml. Fe'm hatgoffwyd am sawl daith ar Afon Taf. Daethom at gored yn Eigg a bu bron i mi gael f'ysgubo drosodd ar f'ochr ond llwyddais sythu mewn pryd. Ychydig ymhellach ymlaen ac fe newidiodd yr afon yn llwyr. Roedd nentydd mewn llif yn ymuno â'r afon ac yn sydyn roeddem mewn dwr mawr. (100cm oedd lefel y dwr yn Mellau, 200cm yn Kennelbach, yn ôl a ganfyddais wedyn. Roedd ychydig yn uwch eto y diwrnod wedyn). Stopiom i edrych ar ddarn anodd lle roedd yn rhaid inni osgoi coeden yn yr afon ond fe lwyddom i fynd heibio yn ddidramgwydd. Yn tynnu tua'r diwedd aeth y grwp cyntaf i lawr darn anodd (G4+ gyda lefel y dwr yma) a gwelon ni nhw i gyd yn saethu o'r ochr chwith i'r ochr dde. Arwydd fod stopper yn y gwaelod. Arweiniodd Andy ein grwp ni, yn cael ei ddilyn gan Bev, Alex, Chris, fi a Dan. Roedd y dwr yn anferth. Gwelais Andy yn saethu i'r awyr ac es ymhellach i'r dde. Yn y gwaelod fe dorrais i mas i'r chwith heb broblem ond gweld cyflafan o'm blaen. Roedd tri yn nofio, Andy, Bev ac Alex a'u cychod yn cael eu hysgubo i lawr. Penderdynias aros gyda'r ddau oedd wrthi nofio tua'r lan, sef Andy a Bev, yn hytrach na cwrso yn gweddill. Aeth Chris ar ôl Alex a'i chwch. Roedd cwch Andy wedi cael ei dal wrth droed y graig uwchben ond roedd cwch Bev wedi ei ysgubo i ffwrdd. Daeth Matt, Louise T. a Dave i ymuno â ni ac fe dringon lan ochr serth y mynydd gan lusgo ein cychod, nes cyrraedd alpau, a dilyn trac trwy'r caeau at y lôn fawr.Pedair awr wedyn llwyddon ni i ddod o hyd i Chris oedd wedi llwyddo achub cwch Bev.

Dydd Llun: Afon Inn
Dydd Mawrth: Afon Rissbach, Bafaria
http://www.kajaktour.de/rissbach.htm
Dydd Mercher: Ceunant Schuls, ar afon Engadine yn yr Yswisdir.
Dydd Iau: rhan uchaf Afon Isar, Bafaria
Dydd Gwener: Afon Loisach, Bafaria

Cyrhaeddiais gartref tua 14.00 ar Ddydd Sadwrn 3 Mehefin.

 

Ymweliadau â Thryweryn

Es i Dryweryn ddwywaith yn ystod mis Mai. Y tro cyntaf padlais gyda Chris C. ac Alex: un rhediad ar hyd yr afon i lawr i'r Bala yn fy Inazone. Nofiodd Alex wrh bont Fedw'r Gog ond heblaw am hynny doedd dim problem.

Yr wythnos wedyn es yng nghwmni Padlwyr y Ddraig. Mae cofnod manylach ar flog y clwb, ynghyd â lluniau a fideos. Y tro cyntaf i mi ddefnyddio fy Hefe newydd oedd hwnnw, yn baratoad ar gyfer y daith i Awstria.

Monday, May 1, 2006

Symposium Ceufadio y Môr, 29-30 Ebrill

Es i'r Symposium am y penwythnos a gwneud 2 daith:

Ar Ddydd Sadwrn, teithiais o Gemlyn i Borthdafarch, taith o tua 15 milltir. Gadawon Gemlyn tua chanol dydd, (o gwmpas amser penllanw Caergybi). Golygai hynny fod y llanw gyda ni. Roedd y ras wedi dechrau y tua allan i Gemlyn, ac wrth Drwyn Carmel. Chwaraeom am ryw ddeg munud ger Trwyn Carmel cyn mynd o gwmpas y trwyn i giniawa ger Ynys y Fydlyn. Treuliom ryw hanner awr yno cyn mynd yn ein blaenau i Borthdafarch. Roedd bae Caergybi yn brysur: aeth dwy fferi cyflymder uchel heibio ac un fferi arferol. Gan nad oeddun hen fenyw gennym yn gwneud yn rhy dda, bu'n rhaid i ni fynd tuag at Soldiers Point Caergybi iddi fynd i'r lan. Aethom trwy'r ras ac o gwmpas Ynys Arw ac Ynys Lawd i Borthdafarch, gan gyrraedd yno tua 16.15. Alaw ysgafn o'r gogledd oedd yr unig wynt i ni ei brofi trwy'r daith.

Dydd Sul, a phenllanw Caergybi i fod am 12.50, gadawom Borthdafarch yn fuan ar ôl 10 i geisio cyrraedd Ynysoedd y Moelrhoniaid (Y Skerries). Roedd Penrhynmawr yn rhedeg ond i arbed amser fe aethom trwyddynt i'r ochr ddwyreiniol gan eu hosgoi mwy neu lai. Trwy ras Ynys Lawd ac ymlaen ac fe gyrhaeddom (tau 12.20 os cofiaf yn iawn) gydag ychydig iawn o amser cyn i'r llanw droi. Gadawom am 14.00 a chyrraedd yn ôl eto tua 16.00. Roeddem yn grwp mawr o 25 ar y daith hon. Haws i'r fferis ein gweld efallai. Unwaith eto ychydig iawn o wynt a gawsom, or gogledd ac wedyn o'r gorllewin.

Sunday, April 16, 2006

Ynys Dewi, Dydd Sadwrn, 15 Ebrill

Taith wych o gwmpas Ynys Dewi yng nghwmni Colin a Sue E., Jeff L. a Steve W. Gadawon Draeth Mawr ryw chwarter awr ar ôl distyll. Gwahanodd y grwp ar ddamwain yn ddau bron yn syth trwy gamddealltwriaeth. Aeth Jeff a fi tuag at graig Wahan a dal y llig yn syth lawr i ben gogleddol Ynys Dewi tra aeth y lleill yn is i lawr a gweithio i lan ar hyd yr arfordir. Treuliom dros ddwy awr yn mynd i lawr yr ochr orllewinol, yn mynd i mewn i ogofeydd a thrwy gilfannau yn y creigiau. Gwelom sawl twll chwythu, ac aethom i mewn i weld yr "ystafell werdd": ogof lle mae gwawl werdd hyfryd. Roedd morloi yn gwmni i ni am yr awr olaf, yn nofio ac yn llamu o'n cwmpas. Ym mhen gwaelod yr ynys roedd y llif yn ein erbyn wrth i ni fynd trwy Dwll y Dillyn. Yn fuan wedyn, gwelom draeth yn llawn o forloi - tua 50 byddwn yn tybio - a nfion rhyw hanner dwsin atom. Cododd un ohonynt ei law a'i roi ar gefn cwch Colin, ac roedd fel petaent yn ein hela ni o'na! Roedd y Bitches newydd ddechrau llifo pan aethom drwodd, ar ôl i mi geisio, a methu, mynd ar y don rhyw ddwyawith. Byddai wedi tyfu yn eitha mawr, gan ei fod yn llanw Spring, 6.7m. Doedd dim cythrwfl yn y dwr yn rhoi arwydd o graig Horse ac fe saethom gyda'r llif (yn mynd 9.7 milltir yr awr ar un adeg yn ôl GPS). Cyrraeddom yn ôl tua 7.30, bron 4 awr ar ôl cychwyn.

Thursday, April 13, 2006

Dydd Iau, 13 Ebrill.

Nos Fercher clywais eitem ar y newyddion bod merch wedi ei chludo i'r ysbyty ar ôl damwain ar Afon Gwy ger y Clas-ar-wy. Postais neges ar fforwm http://www.ukriversguidebook.co.uk/forum/viewtopic.php?t=13776. Y bore yma, dyma fi'n cael galwadau ffôn gan ITV a'r BBC yn gofyn i mi wneud cyfweliad amdani, gan fod y ferch 9 oed wedi marw. Gwnes gyfweliad â'r BBC a ddangoswyd ar newyddion S4C. Wyddwn i ddim o fanylion y ddamwain wrth gwrs. Fy namcaniaeth bersonol yw bod canw y teulu o 3 wedi troi drosodd, bod y 3 wedi eu gwahanu yn y dwr a bod y ferch wedi ei hysgubo i ynys neu frwyn a'i bod wedi ei dal yno am dipyn ac erbyn i'w thad/achubwyr ei chyrraedd ei bod wedi oerio.

http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_4900000/newsid_4906900/4906934.stm

Bae Caerdydd, Dydd Sul 9 Ebrill

Diwrnod ar y Bae yng Nghaerdydd, mewn sesiwn ar sut i hyfforddi ceufadio môr. Cawsom bob math o dywydd, gan gynnwys heulwen a chesair. Daeth y cesair yn y prynhawn pan oeddem yng nghanol y Bae. Amser cinio fe lanion ni a mynd am baned yn Coffee Heaven neu rywle felly. Tynnon ni lygaid pawb gan ein bod yn eistedd wrth y byrddau y tu allan yn ein dillad ceufadio. Ar y diwedd, rolias i ddwywaith er mwyn ymarfer. Dylwn i fod wedi gwybod yn well. Mae ansawdd dwr y Bae yn warthus. Dydd Mawrth es i'n sâl gyda phoenau yn y bol barodd am dridiau. Boed yn rhybudd i chi i gyd.

Monday, March 27, 2006

Afon Ysgir, Dydd Sul 26 Mawrth

Unwaith o'r blaen, os cofiaf yn iawn, oeddwn i wedi padlo ar yr afon hon. Cofiwn ei bod yn braf ond roedd gen i bryder hefyd am wifrau ar draws yr afon. Doeddwn i ddim yn cofio yn iawn a oeddwn wedi cael profiad o hwnna ar yr afon yma ond roedd cof pendant ohonynt ar Afon Honddu (gwasgu danodd) ac Afon Tarell (taro i mewn a rolio danodd). Fel y digwyddodd roedd yr afon yn glir ohonynt ac fe ges i, Rob G., Phil D. a Tim daith braf di-ddigwyddiad. Roedd lefel y dwr yn gymhedrol (ychydig dros 4 ar y mesurydd wrth y gored ar y diwedd): dim crafu heblaw ar ail gam y rhaeadr mwyaf. 

Monday, March 20, 2006

Canwio Ynys Môn

Es ar benwythnos "Advanced Sea Kayaking" (i fod) gyda chwmni Nigel Dennis (http://www.seakayakinguk.com/) ar 11-12 Mawrth. Roedd tri arall ar y cwrs: Neil, o Israel, Ole, o Greenland, ac Olaf, o Lundain. Fe'n harweinwyd gan Pete, gan fod Nigel yn dal i ddioddef yn sgil y ffliw.

Er bod y rhagolygon am wynt 5-7, yn codi am 8, roedd hi'n fore braf yng Nghaergybi ar y bore cyntaf. Cychwynom o Gaergybi gyda bron dim gwynt o gwbl. Yn fuan ar ôl gadael y porthladd roedd yn rhaid inni dynnu i mewn i draeth Soldiers Point i Pete gael drwsio ei gwch oedd yn gollwng. Llwyddais golli blaen fy mibell ddwr Platybus wrth lanio (yr ail dro i mi ei golli tra'n ceufadio ar arfordir Môn). Roedd y llanw ar drai a ras felly wrth nesáu at Ynys Arw. Chwaraeon ni yno am ychydig - a môrlo yn ein gwylio - cyn mynd ymlaen i stopio yn Ogof y Senedd-dy am ginio. Rhagor o fôrloi. Roedd y llanw wedi troi erbyn inni gyrraedd Penrhyn Mawr ac felly cawsom chwarae ar y ras yna am ychydig hefyd. Gorffenom gydag ychydig o ymarfer rolio ym Mhorth Dafarch.

Y diwrnod wedyn,roedd y tywydd wedi newid, ac yn dipyn mwy o sialens. Aethom i arfodri y gogledd gan fod y gwynt yn chwythu'n eitha cryf (4) o'r de. O Borth Eilian fe aethom allan tipyn i ddal y llif i'r gorllewin. Roedd ymchwydd gweddol yn rhoi cyfle inni syrffio. Roedd padlo i mewn i Borth Wen yn waith caled, i mewn i wynt 4-5, 6 ar adegau. Stopion ni yno am ginio ac wedyn cychwyn yn ôl. Roedd croesi Prth Llechog bron yn ormod i mi, a'r gwynt yn gryf o'r lan ar fy ochr bron yn fy chwythu drosodd ychydig o weithiau. Ar ôl ychydig, anelom i mewn at y lan ac wedyn cadw i mewn yn agos i weithio ein ffordd yr holl ffordd yn ôl. Roedd fy nghoesau yn boenus iawn erbyn y diwedd. Gobeithiaf y bydd modd i mi gael safle eistedd mwy cyfforddus y tro nesaf, ar ôl newid fy nghwch tipyn. 

Saturday, February 18, 2006

Afon Taf, Dydd Sadwrn 18 Chwefror

Aeth 5 ohonom, fi, Matt, Phil D., Paul Mc, Dave C, ar yr afon o Fynwent y Crynwyr i Drefforest. Hwn oedd y tro cyntaf i bawb ond Matt a fi wneud yn darn yma. Llwyddodd Phil wneud ei rol cyntaf mewn dwr gwyn, a dyna uchafnwynt y daith mae'n debyg. Lefel y dwr: 5 (isel) ar y mesurydd uwchben cored Abercynon.

Sunday, February 12, 2006

Syli a Southerndown, 11 a 12 Chwefror

Penwythnos prysur. Ar ôl sesiwn yn y pwll fore Dydd Sadwrn es ar fy mhen fy hun i Syli am dro ar y môr: ychydig heibio i Drwyn Larnog ac yn ôl. Pan gyrhaedddais yn ôl tua 4.30 roedd rhyw tri chwarter awr o hyd tan ben llanw, a'r llanw yn dal i lifo, gan achosi ras bach rhwng y tir mawr a'r ynys o hyd. Roedd y tywydd yn oer ond yn braf, a'r môr yn llonydd iawn.

Ddydd Sul, roedd y tywydd wedi newid. Roeddwn wedi trefnu cwrdd â Dave C. , ac fe gyrhaeddodd rhyw 25 munud yn hwyr am 10.25. Roedd tipyn o wynt - o gwmpas ffors 3 i gyfeiriad y lan, ond dim llawer o donnau, ond roedd yr ychydig o donnau oedd yna yn ddigon i mi, a finnau heb arfer â'm cwch newydd eto. Cychwynnon tua'r dwyrain, yn erbyn y llanw (oedd ar drai, pehn y trai i fod am 12.15) a mynd heibio i Drwyn y Witch. Roeddwn am droi yn ôl gan fy mod braidd yn nerfus, ac fe droion ni i'r cyfeiriad arall felly gan fynd ychydig heibio i Southerndown. Roedd y gwynt ar ein cefnau fymryn nawr, a'r tonnau hefyd. Roeddwn i'n falch cyrraedd y traeth heb broblem. Chwaraeom ni yn y tonnau am ychydig wedyn cyn mynd i'r lan tua12.30, wedi cael tua awr a hanner ar y dwr. Cawl a pheint yn y dafarn cyn mynd adre i wylio gêm Cymru a'r Alban wedyn.

Tuesday, February 7, 2006

Y Barri, Dydd Sul 5 Chwefror

Fy nhaith gyntaf yn fy ngheufad newydd yn y De. Cwrddais â Grant uwchben Bae Jackson yn y Barri. Roeddem ar y dwr tua 10.45 ac fe aethom ar hyd yr arfordir i'r gorllewin, mor bell â Ffont-y-gari, cyn troi yn ôl tua 11.30, 10 munud cyn pen llanw. Roedd y llanw yn amlwg yn llifo yn ein herbyn pan gyrhaeddom y pentir olaf wrth Fae Jackson. Gorffennodd y daith â fi yn rasio yn erbyn cwch rhwyfo o'r clwb hwylio gyda phedwar rhwyfwr oedd allan yn ymarfer, a roliais (yn llwyddiannus yn ffodus) i oeri ar y diwedd. Taith o gwmpas 10 milltir yn ôl fy nghyfrif i, y'n gloygu mae'n rhaid ein bod wedi cael cryn gymorth gan y llif ar y rhan gyntaf. Diwrnod braf. Roedd y dwr yn llonydd, a'r tywydd ychydig yn gymylog ar y dechrau ond yn heulog erbyn y diwedd. Tynnais y lluniau ar y diwedd oll, tua 1.15pm.

Sunday, January 29, 2006

Avocet, Padarn a Llanddwyn, penwythnos 28-29 Ion

Penwythnos da. Prynais Avocet, ceufad y môr gan Valley:http://valleycanoeproducts.co.uk/

Prynais i fe yn Surf Lines yn Llanberis: http://www.surf-lines.co.uk

I'w brofi es yn syth am dro ar Lyn Padarn. A'r diwrnod wedyn, o gwmpas Ynys Llanddwyn. Pwysedd uchel yn golygu awyr las, a bron dim gwynt, a hwnnw o'r gogledd-ddwyrain. Golygfeydd bendigedig a tro hyfryd.

Saturday, January 21, 2006

Dal lan gyda'r cofnodi

Unwaith eto mae arnaf ofn fy mod wedi bod yn cofnodi teithiau ar flog Clwb Padlwyr y Ddraig yn gyntaf.

Heddiw Dydd Sadwrn 21 Ionawr: Afon Taf o gored Radyr at glwb rhwyfo Llandaf. Lefel y dwr yn gymedrol isel, yng nghwmni Grant a John N.

Dydd Sul 15 Ionawr: Afon Wysg o Dal-y-bont at islaw Llangynidr. Lefel y dwr yn isel, yng nghwmni John C., Matt a Rob.

Dydd Sadwrn 7 Ionawr: Afon Gwy o Ddernol at Raeadr Gwy. Lefel y dwr yn isel iawn. Yng nghwmni Ron, Jon, Phil a Matt.

Heddiw, cafodd y cwlb sesiwn arbennig yn y pwll gyda dau gamera fideo, gan gynnwys un tan-ddwr yn cofnodi ein hymgeision i rolio. Roeddwn yn swil o'r camera, a'm rôl yn waeth nag erioed!