Monday, March 27, 2006

Afon Ysgir, Dydd Sul 26 Mawrth

Unwaith o'r blaen, os cofiaf yn iawn, oeddwn i wedi padlo ar yr afon hon. Cofiwn ei bod yn braf ond roedd gen i bryder hefyd am wifrau ar draws yr afon. Doeddwn i ddim yn cofio yn iawn a oeddwn wedi cael profiad o hwnna ar yr afon yma ond roedd cof pendant ohonynt ar Afon Honddu (gwasgu danodd) ac Afon Tarell (taro i mewn a rolio danodd). Fel y digwyddodd roedd yr afon yn glir ohonynt ac fe ges i, Rob G., Phil D. a Tim daith braf di-ddigwyddiad. Roedd lefel y dwr yn gymhedrol (ychydig dros 4 ar y mesurydd wrth y gored ar y diwedd): dim crafu heblaw ar ail gam y rhaeadr mwyaf. 

Monday, March 20, 2006

Canwio Ynys Môn

Es ar benwythnos "Advanced Sea Kayaking" (i fod) gyda chwmni Nigel Dennis (http://www.seakayakinguk.com/) ar 11-12 Mawrth. Roedd tri arall ar y cwrs: Neil, o Israel, Ole, o Greenland, ac Olaf, o Lundain. Fe'n harweinwyd gan Pete, gan fod Nigel yn dal i ddioddef yn sgil y ffliw.

Er bod y rhagolygon am wynt 5-7, yn codi am 8, roedd hi'n fore braf yng Nghaergybi ar y bore cyntaf. Cychwynom o Gaergybi gyda bron dim gwynt o gwbl. Yn fuan ar ôl gadael y porthladd roedd yn rhaid inni dynnu i mewn i draeth Soldiers Point i Pete gael drwsio ei gwch oedd yn gollwng. Llwyddais golli blaen fy mibell ddwr Platybus wrth lanio (yr ail dro i mi ei golli tra'n ceufadio ar arfordir Môn). Roedd y llanw ar drai a ras felly wrth nesáu at Ynys Arw. Chwaraeon ni yno am ychydig - a môrlo yn ein gwylio - cyn mynd ymlaen i stopio yn Ogof y Senedd-dy am ginio. Rhagor o fôrloi. Roedd y llanw wedi troi erbyn inni gyrraedd Penrhyn Mawr ac felly cawsom chwarae ar y ras yna am ychydig hefyd. Gorffenom gydag ychydig o ymarfer rolio ym Mhorth Dafarch.

Y diwrnod wedyn,roedd y tywydd wedi newid, ac yn dipyn mwy o sialens. Aethom i arfodri y gogledd gan fod y gwynt yn chwythu'n eitha cryf (4) o'r de. O Borth Eilian fe aethom allan tipyn i ddal y llif i'r gorllewin. Roedd ymchwydd gweddol yn rhoi cyfle inni syrffio. Roedd padlo i mewn i Borth Wen yn waith caled, i mewn i wynt 4-5, 6 ar adegau. Stopion ni yno am ginio ac wedyn cychwyn yn ôl. Roedd croesi Prth Llechog bron yn ormod i mi, a'r gwynt yn gryf o'r lan ar fy ochr bron yn fy chwythu drosodd ychydig o weithiau. Ar ôl ychydig, anelom i mewn at y lan ac wedyn cadw i mewn yn agos i weithio ein ffordd yr holl ffordd yn ôl. Roedd fy nghoesau yn boenus iawn erbyn y diwedd. Gobeithiaf y bydd modd i mi gael safle eistedd mwy cyfforddus y tro nesaf, ar ôl newid fy nghwch tipyn.