Monday, July 17, 2006

Trwyn Du i Landdona, 14 Gorffennaf

Rwyf wedi cymryd saib o ganwio yn ddiweddar mewn ymgais i ddod yn iach: mae f'ysgwydd a'm penelin wedi bod yn brifo. Ond gwnes daith fach prynhawn Dydd Sadwrn diwethaf. Roedd slac penllanw i fod tua 14.15 ger y Trwyn Du, Penmon, a'r gwynt o'r dwyrain. Gwaetha'r modd pan gyrhaeddais tua'r amser yna roedd y gwynt hefyd yn eitha cryf, ffors 4 byddwn yn dweud. Mentrais i lawr i Drwyn Dinmor ac roedd y gwynt wedi gostegu tipyn pan ddes yn ôl i draeth Trwyn Du, felly bant â fi. Gadewais am 4 a byddwn wedi cyrraedd yn hawdd o fewn awr ond fy mod tua'r diwedd wedi cymryd f'amser a mynd i archwilio rhai o'r holltau neu ogofeydd yn y creigiau.