Saturday, December 29, 2007

Rhagfyr 1, 6, 16, 24 a 29.

Heb gofndoi nifer o deithiau, er bod manylion cwpl ohoynt ar flog Padlwyr y Ddraig. 1 Rhagfyr, Afon Wysg, Pontsenni- Aberbrân. 6ed: Afon Taf, rhan uchaf. Rhagfyr 16, Afon Wysg, Tal-y-bont i Langynidr, 24 Rhagfyr, rhan uchaf afon Taf, a heddiw, 29 Rhagfyr: Afon Gwy o Ddernol i Raeadr Gwy. 1.17m ar y mesurydd yn Rhaeadr am 06.00. oedd yn golygu ei bod yn llawn. Es yng nghwmni Euros, Owain, John C, Matt, Dave C,. John O', Mark ac Adam. Nofias ar y diwedd ar ôl fynd dros y rhaeadr ei hun i mewn i stoper mawr. Llwyddodd E rolioa r afon am y tro cyntaf, ddwywaith.

Sunday, November 18, 2007

Dydd Sul 18 Tachwedd Afon Taf

Rwy wedi esgeulo'r blog yma eto. Yn ystod y mis diwethaf rwy wedi bod i Symonds Yat ddwywaith, unwaith gydag Euros, ac unwaith gyda fe a'i ffrind Steff. Heddiw, gan nad oedd wedi bwrw glaw go iawn ers wythnosau a'r afonydd yn wag o'r herwydd, reodd wn wedi trefnu cwrdd â John C. ger cored Abercynon er mwyn chwarae yno, ond, dros nos, bu yn bwrw, a pahna gyrhaeddom Abercynon, gwelon fod digon o ddwr yn yr afon. Yn lle aros yno, aeothom lan at Fynwent y Crynwyr, a gwnued y daeith fer i lawr i Abercynon. Aethom dors y gored gyntaf am y tro cyntaf ers oesoedd, gan fod digon o ddwr i ni fydn ar yr ochr dde eithafol. Barf bod yn ôl yn ceufadio. Dylwn gofnodi fod Euros (yr unig un arall oedd gyda ni) wedi nofio tua'r dechrau. Anffodus, oherywdd roedd yn gwneud yn well na fi ar y don gyntaf. Erbyn i ni gyrraedd cored Abercynon, roedd yn dangos 7 ar y mesurydd, a'r tafod o ddwr wedi mynd.

Tags:

Tuesday, October 9, 2007

Ynys Echni, Dydd Sul 7 Hydref

Cwrddais ag Eurion, Neal, Richard U&U ac Adrian ym Mhenarth acaethom ar y dwr am 09.30, a llanw neap isel i fod am 11.30. Roedd gwynt ysgafn F2 o'r dwyrain a rhagolygon m F2-3, 4 yn achlysurol. Aethon mâs i oleudy Monkstone cyn syumd tuag Ynys Echni gyda'r llanw a chyrraedd yno ychydig cyn 11.30. Cawsom ginio ar y traeth nesaf at y lanfa ar ddwyrain yr ynys. Daeth y warden i ddweud y costiai £3.50 pe baem am grwydro ar yr ynys. Ar ôl cinio, tua 12.00 aethom gyda'r cloc o gwmpas yr ynys a chael y llanw'n barod yn llifo'n eitha cryf yn ein herbyn. Ferry glide wedyn tuag at drwyn Larnog a chyrraedd Penarth tau 14.00.

Monday, September 17, 2007

Gogledd Dyfnaint, penwythnos 15-16 Medi

Es gyda Rob G ac Emlyn i "gymanfa" môr gogledd Dyfnaint. Cyrhaeddom y gwersyll yn Mullacott Cross, y tu allan i Ilfracombe, ar nos Wener tra oedd hi'n olau o hyd, o gwmpas 20.00. Cwrddodd pawb am 9.00 y bore wedyn a rhannu'n grwpiau. Aethom i Lynmouth, yn rhan o grwp o 14 (er mai 15 adroddodd y rhai a gymrodd arnynt fod yn arweinwyr i ni i wylwyr y glannau yn Abertawe). Roedd yn fore arbennig o braf, prin awel o gwbl a'r môr fel gwydr. Cychwynnom tuag at Combe Martin tua chanol dydd. Ar ôl stopio am ginio ar draeth Ramsev (er bod yr "arweinwyr" yn mynnu ein bod yn Woody Bay) fe ymrannom yn ddau grwp o 7. Dychwelodd un grwp yn ôl tra aethom gyda'r grwp arall ymlaen i Combe Martin. Cyrhaeddom tua 16.00. Er ein bod wedi mynd yn erbyn dechrau'r llanw am o gwmpas awr, roedd y llanw'n isel iawn o hyd pan gyrhaeddom oedd yn golygu ffordd bell i gario'r cychod at y maes parcio. Ces lifft yn ôl i Lynmouth gyda John Cr., Gwyddel, ond roedd yn tynnu at ddwy awr erbyn i mi ddychwelyd a llwytho'r cychod i fynd o 'na.

Trefnodd Rob, Sea Kayaking SouthWest, y barbiciw gyda'r nos.

Roedd mymryn fwy o drefn arnom erbyn y Dydd Sul. Gwaetha'r modd roedd rhagolygon y tywydd yn anffafrïol iawn - ffors 3-7 o'r de-orllewin yn troi'n 3-4 o'r gogledd-orllewin wedyn. Er bod 11 wedi mynd gyda ni i draeth Hele, i'r dwyrain o Ilfracombe, dim ond 10 fentrodd i'r dwr. Trodd cwpl yn ôl wedi cyrraedd cei Ilfracombe. Gweithredais ychydg fel arweinydd er cymryd y lle olaf wrth i ni gychwyn i'r gorllewin am Fae Lee. Wedi cwrdd â dau badlwr lleol yn dod yn ôl o'r cyfeiriad hwnnw, penderfynom yn raddol na fydd yn mynd llawer ymhellach na dau fae arall. Stopiom am ginio ar draeth Brandy Cove ac wedyn aethom yn ôl gan "neidio'r creigiau" (rock hopping?). Cawsom un "digwyddiad" pan aeth John Cr. o'i gwch. Angorais i ei gwch tra rhoddodd un arall  - Toz - ef yn ôl i'w gwch. Roeddem wedi cychwyn y daith tua 10.45, rhyw awr ar ôl penllanw, ac roedd y llanw yn ein erbyn ar y ffordd yn ôl, er nad oedd unrhyw gryfder iddo gan ein bod yn agos at y lan. Ychydig o ymarfer rolio ar y diwedd ac roeddem allan o'r dwr tua14.00.

Monday, August 27, 2007

Ail-gychwyn blogio

Rwyf wedi bod yn ddistaw ers blwyddyn. Y rheswm am hynny oedd fy mod wedi gorfod rhoi'r gorau i geufadio oherwydd problem gyda f'ysgwydd. Ar ôl ymweld ag Uist, es at arbenigwr i ofyn ei farn: roedd gen i "ardrawiad" ysgwydd ac ar ben hynny roedd yr ysgwydd wedi rhewi, ac roedd gen i ddau benelin tennis. Erbyn hyn yn ffodus, rwyf llawer yn well ac wedi ail-gydio mewn ceufadio. Yn ystod y ddau neu dri mis diwedd rwyf wedi adeiladu i fyny'n araf:

cwpl o droeon bach ger Ynys Sili yng nghwmni Rob G.;

un tro mwy ar fy mhen fy hun, pan es o Swanbridge i bier Penarth ac yn ôl;

tro i Rest Bay gydag E. i syrffio;

tro arall ar fy mhen fy hun o Aberogwr allan i graig Tusker ac wedyn i gyfeiriad traeth Southerndown;

tro bach gydag E. ger Pont-rhydybont, i E. gael ymarfer rholio mewn dwr oedd yn symud, wedyn tro arall gydag e ar afon Menai o Bwll Fanogl i bont Britannia ac yn ôl;

ar nos Lun 20 Awst, es ar afon Taf yng nghwmni Padlwyr y Ddraig, o Fynwent y Crynwyr i Drefforest;

ac ar Ddydd Gwener 24 Awst, gwnes daith, ar fy mhen fy hun eto, o gwmpas 25km, o draeth Lligwy i Ynys Dulas, lle glaniais, cyn mynd o gwmpas Ynys Moelfre ac wedyn ymlaen i Benmon.