Sunday, August 29, 2010

Ynys Echni, 27-28 Awst 2010


O'r diwedd, llwyddais wersylla ar Ynys Echni. Gadewais Swanbridge gyda'r hwyr a chyrraedd yr ynys tua 19.45, hanner awr cyn iddi dywyllu. Codais fy mhabell a chael bwyd cyn iddi dywyllu. Roedd y lleuad bron yn llawn (a'r llanw wedi bod yn uchel felly - 11.3m os cofiaf yn iawn) ac yn noson braf. Wedi iddi dywyllu roedd yr olygfa'n braf o hyd: goleuadau trefi glan y môr de Cymru a Gwlad yr Haf yn rhyfeddod. Rhedai'r cwningod o gwmpas ac roedd y lle'n swynol. Cysgais yn dda, er bod y gwynt yn chwipio'r babell a'r gwylanod ac adar eraill yn cadw rhyw sŵn drwy'r nos. Cysgais yn hwyr gan ddihuno ychydig cyn naw, a dyna olygfa eto. Roedd y môr o'm blaen, yn frown wrth gwrs, fel arfer, ond yr haul yn tywynnu a llawer o gychod hwylio allan yn barod.

Roeddwn am fynd adre ar ôl penllanw 11.00 ac felly doedd dim llawer o amser gen i mewn gwirionedd. Paciais rai o'm pethau â mynd â nhw i lawr at y cei lle des ar draws dafad (wyneb broch) yn gorwedd ac yn anadlu'n drwm. Ni symudodd wrth i fynd heibio iddi. Rhyfedd iawn. Dywedais yr hanes wrth Ross, yr is-warden, pan es yn ôl at fy mhabell a'i thynnu i lawr a gorffen pacio. Es am dro o gwmpas yr ynys wedyn, a chael sgwrs ag un o arweinwyr Woodcraft oedd yno'n hyfforddi grŵp o ryw ddeg crwt ar sgiliau goroesi. Roedden nhw wedi bod yn gwersylla mewn tîpî. Ar fy ffordd nôl at y babell des ar draws un o wirfoddolwyr yr ynys oedd yn chwilo am weddill y praidd wyneb broch. Dywedodd fod y ddafad oedd i lawr wrth y cei wedi trigo. Cerddais gyda'r dyn am ychydig nes dod o hud i'r praidd a gweld bod Ross wedi sylwi bod dafad arall wedi gwahanu oddi wrth y lleill ac yn edrych yn giami.

Gadawais yr ynys yn eithaf hwyr, tua 12, ac fel y rhagwelwyd gan y rhagolygon roedd y gwynt yn codi. Roedd yn F4 am y rhan fwyaf o'r daith ac hwnnw'n gweund y daith yn dipyn mwy o sialens nag a gefais ar fy nheithiau diweddar yno. Cymerodd y daith awr.

Profiad arbennig. Rwyf am fynd eto!

Y Mwmbwls, Dydd Sul 22 Awst

Taith arall i'r Mwmbwls. Mwy neu lai'r un cynllun â'r un blaenorol, heblaw fy mod ar fyn mhen fy hun y tro hwn. Es i'n bellach - at Trwyn Pwlldu, lle ces fy mrechdan. Ymarfer rolio eto wrth gyrraedd yn ôl. "Re-entry and roll" wedi gweithio, jyst, y tro hwn. A hufen iâ blas mafon i orffen.

Saturday, August 21, 2010

Afon Menai, Dydd Mawrth 17 Awst 2010

Cychwynnais o Bwll Fanogl (i'r gorllewin o golofn Nelson "England expects...") a mynd yn syth am Bont Menai. Roedd y llanw newydd droi a doedd gen i ddim llawer o amser i fynd yno a medru cyrraedd yn ôl. Roedd dau grŵp o ganŵyr dan hyfforddiant allan, yn disgwyl i'r llif gynyddu iddynt fedru ymarfer torri i mewn a sylwais ar dri cheufadiwr arall ar y lan ychydig cyn Pont Britannia hefyd yn cymryd hoe. Es i lawr i'r Felinheli wedyn a phrynu brechdan caws drud iawn yn y dafarn a'i bwyta wrth fwrdd y tu allan. Doedd y tywydd ddim hanner cytsal â'r diwrnod cynt. Ar yr afon doedd bron dim gwynt (F3-4 o'r gogledd orllewin oedd hi i fod) ond doedd fawr o heulwen chwaith, er ei bod yn sych. Fe welais wn i ddim faint o grëyrod ar lan Ynys Môn. Ymarfer rolio ar y diwedd yn iawn, ond yr ymarfer allan o'r cwch a rolio i fyny wedyn yn fethiant. Doedd dim digon o bŵer ar ôl yn y GPS i'w ddefnyddio ond, o edrych ar y map, rwy'n amcangyfrif mai rhyw 7 milltir o daith i gyd oedd hon.

Porth Llechog i Draeth Bychan, Dydd Llun 16 Awst

Ar fy mhen fy hun eto. Parciais y car yn Nhraeth Bychan a chael lifft gyda'm gwraig ac Euros i Borth Llechog. (Roeddwn wedi bod yno y diwrnod cynt gan i ni gerdded oddi yno i'r clogwyn gyferbyn â Phorthwen ac yn ô)l. Mynd gyda'r llanw oeddwn, wrth gwrs, a thorrais allan y tu ôl i Ynys Amlwch a gweld morlo. Ymlaen wedyn yn bryderus braidd i Drwyn Eilian a chyrraedd yno tua dwy awr cyn penllanw, adeg pan y gallai wedi bod yn arw iawn. Roedd y dŵr ychydig yn arw ond ddim yn fawr o gwbl ac felly roeddwn heibio iddo'n sydyn. Stopiais i gael bwyd ar draeth mewn bae oedd wedi ei amgylchynu gan glogwyni. Ymlaen wedyn i Ynys Dulas lle roedd llawer o forloi (a RIB yn edrych arnynt). Es rhwng Ynys Moelfre a'r tir mawr. Roeddwn i'n ei chael yn eitha gwaith ar yr ochr agosaf at yr ynys (hwyrach bod y llanw wedi troi yn f'erbyn?) ond yn nes at y tir mawr roedd yn haws. Ymarferais rolio ychydig yn y bae cyn Traeth Bychan. Ar ôl newid, es i lawr at y clwb hwylio a chwilio a dod o hyd i hen gydnabod o ddyddiau hwylio Mei, a chael paned a sgwrs hir â nhw am hynt ein teuluoedd. Diwrnod braf, o ran y tywydd a'r hwyl. Stopiodd y GPS â gweithio pan gyrhaeddais Drwyn Eilian ond tau 10 milltir/15k oedd hyd y daith yma.

Y Mwmbwls, Dydd Sul 8 Awst


Es gyda Rob y tro hwn ac fel y tro diwethaf cychwyn o'r Mymbls yn weddol buan ar ôl y distyll. Doedd hi ddim hanner mor arw y tro yma o gwmpas y goleudy. Gwelon ni un morlo ar y ffordd i Fae Caswell ble stopion ni i gael bwyd. Ychydig o syrffio wedyn wrth gychwyn am yn ôl, a hufen iâ ar y diwedd.