Monday, October 25, 2010

Y Mwmbwls, Dydd Sul 24 Hydref 2010

Taith yng nghwmni Rob a Colin y tro hwn. Gadawom ryw hanner awr cyn y distyll (oedd o gwmpas 13.30) a mynd i Bwll Du i gael cinio. Cyffro ar ddiwedd y daith wrth i mi glywed cwch y Bealge'n galw Gwylwyr y Glannau i ddweud eu bod wedi gweld dau o bobl ar ynys y Mwmbwls a'r llanw wedi dod i mewn fel na fyddent yn gallu mynd o'na. Galwais i nhw ar y VHF a chytuno gyda nhw a'r Gwylwyr yr awn i mewn yn nes i'w rhybuddio. Ar ôl gweiddio a chwifio fy mhadl arnynt fe godon nhw o'u eistedd (ger hen safle'r magnel) a cherddod yn ôl at ble croeson nhw. Roedd dau geufadiwr arall ger y Beagle, un ag VHF, ac roedd yr un heb y VHF wedi eu cyrraedd ychydig o'm blaen. Bachgen a merch o Galicia oedd yno a, na, doedden nhw ddim wedi bwriadu aros 12 awr. Galwais Wylwyr y Glannau i adrodd yr hanes ac fe drefnon nhw i RIB y RNLI fynd i'w nôl. Wow, cyffrous! Cofnod RNLI y Mwbwls: https://www.google.com/calendar/event?eid=NTBodXBtcTl1a2NwaDZzbXJha2NpN3ZpZHMgb2JvODNoaGtlMG5hbjN0MjgyNHZpbjc5cGNAZw&ctz=Europe/London

Sunday, October 24, 2010

Ynys Echni, Dydd Sul 17 Hydref

Roedd e wedi bod yn ddiwrnod braf y diwrnod cynt ac fe barhaodd y tywydd yn braf ar Ddydd Sul. Cwrddais ag Eurion ac Adrian ryw awr cyn penllanw (neaps cymedrol) iawn ger y Captain's Wife ac aethom gwrthglocwedd o gwmpas yr ynys am newid. Holais y warden Matt pan laniais am ymweliad ar wib am achos trigo'r ddafad ddiwedd mis Awst. 'Bloat' oedd y broblem meddai fe. Wrth ymadael daeth Neal ataf - roedd e a'i deulu lawr ar y traeth i fynd i'r cwch, ar ôl iddynt ymweld â'r ynys am daith diwrnod. Ac yn ôl â ni am ddiod yn y Captain's Wife. Diwrnod da arall - fel y bydd bron pob ymweliad ag Ynys Echni i mi.

Chwarae yn nŵr Afon Wysg, 16 Hydref

Ymunais â rhai o aelodau'r clwb yn ymarfer achub ayb yn (yn hytrach nag ar ) Afon Wysg yn Aberhonddu. Tipyn o hwyl oedd y nofio, er i mi lyncu cegaid o ddŵr a dyfalu wedyn a fyddwn yn sâl y diwrnod canlynol.