Wednesday, November 30, 2011

Afon Wysg, Dydd Sul, 27 Tachwedd


Es gyda Rob G a chwrdd â Colin a Sue, a thri o aelodau Clwb Caerdydd: Steve, Tony a Gethin. Roedd digon o ddŵr yn yr afon er ei bod o dan gymedr y gaeaf yn ôl y mesurydd yn Llanddeti.

Afon Teifi, Dydd Sadwrn 29 Hydref 2011

Ysgrifennais yn Saesneg am y daith hon ar flog Padlwyr y Ddraig:

Monday, October 24, 2011

Neyland- Hwlffordd, Dydd Sul 23 Hydref 2011

Awgrymodd Andrew B y daith hon, lan Afon Cleddau. Roedd hi fod yn ddistyll yn Neyland tua 10 ac yn benllanw (rhwng Springs a Neap) tua 16.00. Parciais fy nghar yn Hwlffordd a gyrron ni i lawr i Neyland a pharcio ger y clwb hwylio. (Roedd yr afon yn llifo'n gryf yn Hwlffordd ac roeddwn yn gobeithio'n fawr na fyddai fel hynny pan gyrhaeddem yn ôl).

Roedd y gwynt yn eithaf cryf, F4 neu'n fwy o'r de de ddwyrain ac o'r herwydd, ar ein cefnau bron yr holl amser. 2 awr 35 munud o badlo ac fe gyrhaeddodd Hwlffordd. Roedd yr aber yn braf, yn enwedig yr holl adar, gwyddau'n bennaf ond ambell gylfinir, ger Milffwrdd Bach, a'r corsennau tal - 8 troedfedd? - ar ddwy ochr yr afon wrth nesáu at Hwlffordd. Dewis da o daith gyda'r tywydd oedd gennym.

Ynys Echni, Dydd Sul 16 Hydref

Taith arall i'r ynys hoff, ar fy mhen fy hun eto'r tro hwn. Gadewais Swanbridge'n gynnar am 08.40. Roedd yn llanw Spring a phan gyrhaeddais glanfa'r ynys doedd dim traeth ar ôl. Cerddais o gwmpas ond chwrddais i â neb, er i mi weld merch yn mynd allan o'r ffermdy. Arhosais i ddim yn hir. Oherwydd y llanw Spring, barnais y byddai'n well i mi adael yn gynnar fel bod llai o berygl y byddai'r gwynt yn erbyn y llanw'n cynhyrchu môr mwy garw nag y byddwn yn hoffi. Gadewais tua 40 munud ar ôl penllanw ac roedd y môr yn eithaf llonydd ar y dechrau ond aeth ychydig yn waeth ar ôl 30 munud o badlo. Taith braf arall wrth gwrs!
Neges Twitter a llun llong
Neges Twitter a llun o Swanbridge

Y llwybr:
map Google

Kingsbridge, Sad-Sul 1-2 Hydref 2011


Es i gwrdd ag Eurion a Chris yn sioe canwio Caerwysg ble roedd E wedi trefnu cwrdd â dyn o Lundain, Paul, i drafod y syniad o badlo o gwmpas Prydain gydag e. Ar ôl rhyw awr gadewais a gyrru ymlaen i Kingsbridge. Ces bryd o fwyd yn y bar ar ben y cei a pharatoi fy mhethau i wersylla dros nos. Daeth y lleill, gadewais fy nghar wedi ei barcio ar stryd gerllaw, a gyrron ni ymlaen i Thurlestone Sands. Aethom ar y môr tua 17.30 a phadlo i'r dwyrain am ryw awr nes cyrraedd Bae Soar.
Gwersyllom dros nos yno, wedi codi ein pebyll ar y tir uwchben y traeth.
Bore yfory roeddem ar y dŵr am 07.45. Padlom ymlaen a chyrraedd Kingsbridge am 10.00, ryw awr cyn penllaw. Rhan fwyaf anodd y penwythnos oedd cadw ar dddihun wrth yrru adre.


Y llwybr:
map Google

Tuesday, September 20, 2011

O dan ail Bont Hafren, Dydd Sul, 18 Medi 2011



Cwrddais â Wayne, Debbie a Ralph o Glwb Canwio Gogledd Avon am 08.00 ger Traeth Hafren. Roedd i fod yn benllanw ger Aust am 11.14. (Roedd rhwng Neaps a Spring a gwahaniaeth o tua 11m rhwng penllanw a'r distyll).


Anelom am y buoys oedd yn marcio'r "Shoots" i'r gorllewin ond yn fuan fe ysgubodd y llanw ni o dan y bont. Croeson ni'r afon a mynd i fyny Afon Gwy. Glaniom yng Nghasgwent er mwyn ymestyn ein coesau. Roedd yn rhaid i ni symud ein cychod o'r ffordd ar y gangway gan fod parti angladd o Asiaid ar fin mynd â llwch i'w wasgaru yn Afon Hafren. Aethom ymlaen wedyn, heibio i gastell Casgwent i'r gogledd nes i'r llanw droi. Aethom i lawr wedyn a glanio ar Graig y Capel a chael cinio, cyn mynd yn ôl.

Es i a Wayne am beint wedyn, yn y King's Arms mewn pentref cyfagos, er nad oes gen i syniad ble.

Friday, September 2, 2011

Yn y gorllewin, 30 Awst - 1 Medi


30 Awst, es ar fy mhen fy hun i Ynys Býr: Ychydig iawn o wynt ges i a'r môr yn llonydd dros ben ar y ffordd allan ac es heibio i'r Woolhouse Rocks lle roedd nifer o forloi. Es glocwedd o gwmpas Ynys Bŷr (y tro cyntaf i mi fynd y cyfeiriad hwnnw) a gweld llawer o forloi.

Gwersyllais yn Hendre Eynon ger Tý Ddewi y noson honno, a phadlo gyda Col a Sue E, a Nick K. o Boppit (Aberteifi i Barrog) ar Dydd Mercher 31 Awst. Gwelom ugeiniau o forloi. Llwyddom hefyd ddod o hyd i "Bwll y Wrach", sef yr enw ar gylch lle roedd to hen ogof wedi disgyn.

Y noson honno gwersyllais yn Poppit. Roedd y machlud yn rhyfeddol gan fod ffenestri llawer o dai ochr Gwbert yr aber yn adlewyrchu'r haul gymaint fel yr edrychent fel goleuadau coch llachar. Cerddodd (fi, C a S) i westy'r Webley gerllaw gan ddisgwyl bwyta yno (gan fod arwyddion y tu allan yn hysbysebu bod bwyd ar gael) ond pan gyrhaeddom cawsom wybod nad oedd bwyd ar gael yno y noson honno. Da i ddim. Es i nôl y car ac ymlaen â ni at yr White Hart Inn. Roedd yn 20.55 ond mynnon nhw ei bod yn 21.00 ac nad oedd bwyd ar gael gan ei bod yn 21.00. Da i ddim. Yn y diwedd cawsom sglodion o Landudoch (Bowens). Cymry yno, a bwyd da. Lwcus nad oedd hwyrach na 21.30 neu fe fyddem wedi bod allan o lwc eto.

Padlom o Aberporth i Boppit y diwrnod wedyn. Amneidiodd ddyn ar gwch atom ar y dechrau i ni fynd ato ac fe ofynnodd i ni beidio fynd ymlaen gan y byddem yn saethu taflegyrn am 14.00. Gan ei fod o gwmpas 12.30 dywedom y byddem yn mynd ymlaen gan y byddem o'r ffordd erbyn 14.00. Gwelom ddolffin ger Aberporth a ger y Mwnt. Er ein bod wedi sefyll am 14.00 i weld lansiad y taflegryn, welon ni ddim ond clywed ffrwydrad a sŵn y taflegryn (fel awyren) wedyn. A gwelom fabi morlo mawr mewn ogof ger Gwbert.

Ynys Echni, Dydd Gwener 19 Awst


Tro Euros oedd cael benthyg cwch Rob oedd hi ac aethom i Ynys Echni, gan fynd gyda'r trai o Benarth. Roedd y môr yn eithaf llonydd y ddwy ffordd. Agordd Matt dafarn y Gull a Leek inni gael peint o Gwrw Haf Tomos Watkin yr un. Treuliom gwpl o oriau ar yr ynys ac felly doedd effaith y cwrw ddim yn andwyol i'n medrau padlo ar y ffordd yn ôl.

Cofnod Twitter a llun Euros

Roedd y llanw'n isel a datgelwyd lloriau'r bylchau ger y lanfa. Dyma lun yr un allanol a chledrau a darnau haearn eraill i'w gweld.

Y Mwmbwls, Dydd Sul 14 Awst

Gan fy mod wedi cael benthyg cwch Rob tra ei fod ar ei wyliau, cafodd Iestyn gyfle ddod gyda fi ac aethom o'r Mwmbwls i Caswell ac yn ôl. Doedd e erioed wedi bod mewn cwch môr o'r blaen a ddim wedi ceufadio o gwbl ers fod ar Afon Tryweryn 4 blynedd ynghynt ac fe ymgyfarwyddodd yn dda. Daeth mâs o'i gwch yn yr ychydig o syrff pan laniom yn Caswell ond roedd fel hen law ar y ffordd yn ôl, gan syrffio'r ymchwydd oedd gyda ni(a'r gwynt ar ein cefnau).

Tryweryn, Dydd Sul 7 Awst

Es lan ar nos Sadwrn a gwersylla ar safle Tyn-y-gornel fel arfer. Ceufadais â Colin a Sue E a'u ffrind Cedric a'i ferch Emily, gan fynd o'r top i'r gwaelod gyda Col a Sue a cheufadio'r top gyda'r ddau arall wedyn. Ces beth cyffro wrth orfod cwrso padl Emily ar ôl i'w rol fethu yn y Fynwent.

Tua Phenarth, Dydd Sul 24 Gorffennaf

Wedi bwriadu mynd i Ynys Echni gyda Paul C.J., Paul arall ac aelod arall o Wyebother ond rhoddodd yr olaf y gorau cyn inni gyrraedd Ynys Sili (hen nam ar ei gefn) ac wedyn barnodd y ddau arall ei fod yn rhy arw iddynt - roedd yn ymylu ar F4 weithiau. (Cyn i hynny ddigwydd es i mewn llinyn pysgota ac aeth ei fachyn yn sownd yn y plastig ger cefn y cwch). Aethom am dro tua Phenarth yn lle.

Sunday, July 10, 2011

Ynys Echni, Dydd Sul 10 Gorffennaf

Gyda Rob eto, tywydd eitha, gwynt F3. Roedd yn weddol arw ar y ffordd yn ôl ond ddim cynddrwg â'r tro blaeonorol.

Sir Benfro, Dydd Sadwrn 2 - Dydd Llun 4 Gorffennaf

Gyrrais i Sir Benfro ddiwedd prynhawn Dydd Sadwrn a gwersylla yn Hendre Einon. Es am dro allan o Abereiddi y noson honno:


Daeth Rob G i badlo Dydd Sul ac aethom o gwmpas Ynys Dewi:

Roeddwn ar fy mhen fy hun eto Dydd Llun:

Ynys Echni, 11 Mehefin

Es gyda Rob:

Mwmbwls, 5 Mehefin

Es gyda Paul a Paul, y ddau Paul yn aelodau o Wye Bother, un ohonynt yn gadeirydd/ysgrifennydd ar y clwb. Gwnaethom y daith arferol o'r Mwmbwls at Bwll Du ac yn ôl. Ymarferom rolio ar y ffordd yn ôl wedi dod o gwmpas ynys y Mwmbwls.

Sunday, May 29, 2011

Ynys Echni, 24 Ebrill 2011



Es gyda Rob am daith fer. Daeth bad achub atom ar y ffordd yn ôl a holi lle roedd y cwch gwag. Eu cyfeirio at y 3 arall oedd wedi eu gweld yn gadael Swanbridge a mynd o gwmpas Ynys Rhonech. Pan oeddem yn ôl yn Swanbridge cwrddom â dau ohonynt, Stu a Taran, a dysgu bod y trydydd wedi ei daro'n sâl ar y ffordd yn ôl a bod RIB o'r Bae wedi ei gludo yn ôl gan adael y cwch oedd wedi ei achub wedyn gan y RNLI. Yr hanes gan Taran yma: Hanes Taran

Ynysoedd Rhonech ac Echni, Sul, 17 Ebrill 2011




Gydag Eurion, taith geufadio wych heddiw, 18 milltir i gyd, cylch o Benarth i Ynysoedd Echni a Rhonech

Ynys Echni, Dydd Sul, 10 Ebrill 2011

Padl a diwrnod braf ar Ynys Echni heddiw. Dydy'r wylanod ddim yn ymosodol eto.Llun y baracs

Swanbridge, Dydd Sul, 6 Mawrth 2011

Oherwydd drewdod y tân yng Nghaerdydd, wedi padlo gyda Rob ar y môr o Swanbridge yn lle ar y Bae fel roeddwn wedi bwriadu. Prynhawn braf iawn. Roedd f'ysgwydd yn boenus am wythnosau ar ôl y daith hon. Rhaid fy mod wedi tynnu cyhyr neu rywbeth. O ganlyniad, gorffwysais e trwy beidio â phadlo eto am rai wythnosau.

Afon Wysg, Dydd Sul 20 Chwefror 2011

Taith o Dal-y-bont i Grughywel gyda Colin a Sue, John C a Gareth. Lefel y dŵr braidd yn isel. Dyma'r tro cyntaf erioed i mi lanio ar ochr dde'r afon uwchben y bont olaf.

Afon Taf, Dydd Sadwrn 19 Chwefror 2011

Taith oedd wedi ei threfnu gan un o ferched Padlwyr y Ddraig (Amber) oedd hon ac fe ddenwyd torf fawr. Hyd y cofiaf (a finnau'n cofnodi hon ar 29 Mai!) roedd Andy R, John O', Emlyn, Steve White a'i ffrind, Paul Mac, Nick B, tab Amber sef Rhys, Jon a Lewis,a llawer o rai eraill! Roedd y dŵr yn rhy uchel a dweud y gwir a'r afon wedi ei golchi allan. Rhannon ni'n ddau grŵp a dim ond yr ail aeth dros gored Rhadyr. Arweiniodd Nick B ni drosodd bron yn y canol. Yn fuan wedyn, trodd John O' drosodd ac fe achubais i fe. Ymhellach ymlaen, ymarferodd lawer nofio yn yr afon ychydig heibio i bont. Sai'n cofio dim arall!

Afon Gwy, Dydd Sul, 13 Chwefror 2011

o Ddernol at Raeadr Gwy. Dim llawer o ddwr yn yr afon=ddim yn gyffrous iawn. 2 awr yn padlo, 3 awr 30 m o yrru. Gyda Colin a Sue, John C, Rob, Emlyn a Gareth. Stopion ni yn y dafarn yn y Bont-newydd ar Wy ar y ffordd yn ôl a gwylio'r gêm rhyngwladol.

Sunday, February 6, 2011

Afon Tarell, Dydd Sul 6 Chwefror 2011

Teithiais gyda Rob yn ei gar a chwrdd ag Emlyn a John C. yn y garej ar yr A470. Roedd wedi bod ar fy meddwl mynd ar Afon Irfon ond penderfynon fynd ar afon gyfarwydd yn lle gan ei feddwl, o ystyried mor stormus oedd y dydd, y byddai anialwch ardal Abergwesyn braidd yn rhy wyllt. Afon Tarell oedd ein dewis ac wrth fynd heibio i'r Storey Arms a gweld y nentydd yn tywallt gwyddem y byddai digon o ddŵr - ond a fyddai gormod? Lawr â ni i gael golwg ar yr afon ger yr ystad diwydiannol y tu allan i Aberhonddu ac edrychai'r lefel yn berffaith: y graig ar yr ochr chwith i'r stoper o dan y bont wedi gorchuddio digon i olygu y byddai gobaith mynd y ffordd honno i osgoi'r stoper.

Roedd y dechrau - 200m efallai? yn wych ond yn anffodus yn rhy wyllt i Emlyn a nofiodd. Cymrodd mwy na 200 mae'n debyg cyn i mi lwyddo gael ei gwch i'r lan. Wedyn collais i'r plwg o gefn ei gwch wrth ei wagio a bu'n rhaid dyrchu yn fy mag am dap duct i orchuddio'r twll.

Ymhellach ymlaen, golygai dwy goeden ar draws yr afon fod yn rhaid i ni gario heibio iddynt, a sawl rhwystr arall a roddodd naws expedition i'r daith i gyd. Y cyffro i mi oedd i mi geisio fynd heibio i foncyff ar yr ochr chwith a gweld pan oedd yn rhy hwyr fod y boncyff yn agos i'r wyneb lle bwriadwn fynd. Er i mi bron â llwyddo gael y cwch dros y top, methu wnes ac fe lithrodd yn ôl i'r dde a'm gadael yn sownd wrth ochr y boncyff. Er i mi ddal fy hun yno am ychydig penderfynais y byddai'n rhaid i mi droi drosodd a gobeithio cael f'ysgubo'n ddigel odanodd (fel a wnaeth Aled ar y daith ddiweddar ar Afon Honddu).. Tynnais y spraydec yn rhydd cyn troi drosodd a gollwng fy mhadl. Yn ffodus fe es o dano'n ddirwystr a llwyddo fflicio fy hunan yn ôl i fyny, a dod o hyd i'm padl. Digon o gyffro. Cymeron ni tua 2 awr i gyd.

Roedd gweddill y daith yn ddiddigwyddiad i bawb diolch byth. Ymweliad arall â thafarn Tai'r Bull. Wedi penderfynu erbyn hyn ei fod yn lle braidd yn rhyfedd. Ar agor y tro hwn ond y byrddau yn y bar i gyd wedi eu cadw (am 14.30) (a dim cwrw chwerw gan fod problem gyda'r nwy CO2). Neb wedi cyrraeddd y lleoedd wedi eu cadw wrth i ni ymadael am 15.15!

Tuesday, January 18, 2011

Afon Ysgir, Dydd Sul, 16 Ionawr

Taith dda yng nghwmni John C, Emlyn, Gareth, Colin a Sue E. Cododd y dŵr yn ystod y daith o 4 i 4.5 ar y mesurydd wrth y gored. Tua'r lefel isaf dderbyniol yw hon. Rhoddon ni i mewn ym Mhontfaen, fel arfer a theithio i lawr i Afon Wysg i orffen yn Aberhonddu. Cymerodd y daith tua 2 awr a chwarter. Nofiodd Emlyn a bu bron i mi gael fy llyncu gan stoper ond heblaw am hynny, di-ddigwyddiad oedd y daith. Stopion ni yn Nhai'r Bull am beint wedyn.

Afon Honddu, Sadwrn 8 Ionawr

Cofnodais y daith hon ar flog Padlwyr y Ddraig: http://dragon-paddlers.blogspot.com/2011/01/afon-honddu-saturday-8-january-2011.html

Friday, January 7, 2011

Bae Dwnrhefn, Dydd Sadwrn (Calan), 2011

Cwrddiais ag Eurion a Chris C. eto, a phadlo a "Nige" am y tro cyntaf. O gwmpas 8 gradd yn yr awyr a'r dwr, a'r tonnau'n eithaf bach ac anfynych - ond hynny'n fy siwtio i'r dim. Synnais fy hun wrth aros ar y dwr mor hir â phawb arall, ryw 90 munud, er fy mod wedi diodddef o'r cwlwm gwythi o fewn cwta 10 munud pan droes drosodd a gorfod rolio.