Sunday, February 6, 2011

Afon Tarell, Dydd Sul 6 Chwefror 2011

Teithiais gyda Rob yn ei gar a chwrdd ag Emlyn a John C. yn y garej ar yr A470. Roedd wedi bod ar fy meddwl mynd ar Afon Irfon ond penderfynon fynd ar afon gyfarwydd yn lle gan ei feddwl, o ystyried mor stormus oedd y dydd, y byddai anialwch ardal Abergwesyn braidd yn rhy wyllt. Afon Tarell oedd ein dewis ac wrth fynd heibio i'r Storey Arms a gweld y nentydd yn tywallt gwyddem y byddai digon o ddŵr - ond a fyddai gormod? Lawr â ni i gael golwg ar yr afon ger yr ystad diwydiannol y tu allan i Aberhonddu ac edrychai'r lefel yn berffaith: y graig ar yr ochr chwith i'r stoper o dan y bont wedi gorchuddio digon i olygu y byddai gobaith mynd y ffordd honno i osgoi'r stoper.

Roedd y dechrau - 200m efallai? yn wych ond yn anffodus yn rhy wyllt i Emlyn a nofiodd. Cymrodd mwy na 200 mae'n debyg cyn i mi lwyddo gael ei gwch i'r lan. Wedyn collais i'r plwg o gefn ei gwch wrth ei wagio a bu'n rhaid dyrchu yn fy mag am dap duct i orchuddio'r twll.

Ymhellach ymlaen, golygai dwy goeden ar draws yr afon fod yn rhaid i ni gario heibio iddynt, a sawl rhwystr arall a roddodd naws expedition i'r daith i gyd. Y cyffro i mi oedd i mi geisio fynd heibio i foncyff ar yr ochr chwith a gweld pan oedd yn rhy hwyr fod y boncyff yn agos i'r wyneb lle bwriadwn fynd. Er i mi bron â llwyddo gael y cwch dros y top, methu wnes ac fe lithrodd yn ôl i'r dde a'm gadael yn sownd wrth ochr y boncyff. Er i mi ddal fy hun yno am ychydig penderfynais y byddai'n rhaid i mi droi drosodd a gobeithio cael f'ysgubo'n ddigel odanodd (fel a wnaeth Aled ar y daith ddiweddar ar Afon Honddu).. Tynnais y spraydec yn rhydd cyn troi drosodd a gollwng fy mhadl. Yn ffodus fe es o dano'n ddirwystr a llwyddo fflicio fy hunan yn ôl i fyny, a dod o hyd i'm padl. Digon o gyffro. Cymeron ni tua 2 awr i gyd.

Roedd gweddill y daith yn ddiddigwyddiad i bawb diolch byth. Ymweliad arall â thafarn Tai'r Bull. Wedi penderfynu erbyn hyn ei fod yn lle braidd yn rhyfedd. Ar agor y tro hwn ond y byrddau yn y bar i gyd wedi eu cadw (am 14.30) (a dim cwrw chwerw gan fod problem gyda'r nwy CO2). Neb wedi cyrraeddd y lleoedd wedi eu cadw wrth i ni ymadael am 15.15!