Monday, October 24, 2011

Neyland- Hwlffordd, Dydd Sul 23 Hydref 2011

Awgrymodd Andrew B y daith hon, lan Afon Cleddau. Roedd hi fod yn ddistyll yn Neyland tua 10 ac yn benllanw (rhwng Springs a Neap) tua 16.00. Parciais fy nghar yn Hwlffordd a gyrron ni i lawr i Neyland a pharcio ger y clwb hwylio. (Roedd yr afon yn llifo'n gryf yn Hwlffordd ac roeddwn yn gobeithio'n fawr na fyddai fel hynny pan gyrhaeddem yn ôl).

Roedd y gwynt yn eithaf cryf, F4 neu'n fwy o'r de de ddwyrain ac o'r herwydd, ar ein cefnau bron yr holl amser. 2 awr 35 munud o badlo ac fe gyrhaeddodd Hwlffordd. Roedd yr aber yn braf, yn enwedig yr holl adar, gwyddau'n bennaf ond ambell gylfinir, ger Milffwrdd Bach, a'r corsennau tal - 8 troedfedd? - ar ddwy ochr yr afon wrth nesáu at Hwlffordd. Dewis da o daith gyda'r tywydd oedd gennym.

Ynys Echni, Dydd Sul 16 Hydref

Taith arall i'r ynys hoff, ar fy mhen fy hun eto'r tro hwn. Gadewais Swanbridge'n gynnar am 08.40. Roedd yn llanw Spring a phan gyrhaeddais glanfa'r ynys doedd dim traeth ar ôl. Cerddais o gwmpas ond chwrddais i â neb, er i mi weld merch yn mynd allan o'r ffermdy. Arhosais i ddim yn hir. Oherwydd y llanw Spring, barnais y byddai'n well i mi adael yn gynnar fel bod llai o berygl y byddai'r gwynt yn erbyn y llanw'n cynhyrchu môr mwy garw nag y byddwn yn hoffi. Gadewais tua 40 munud ar ôl penllanw ac roedd y môr yn eithaf llonydd ar y dechrau ond aeth ychydig yn waeth ar ôl 30 munud o badlo. Taith braf arall wrth gwrs!
Neges Twitter a llun llong
Neges Twitter a llun o Swanbridge

Y llwybr:
map Google

Kingsbridge, Sad-Sul 1-2 Hydref 2011


Es i gwrdd ag Eurion a Chris yn sioe canwio Caerwysg ble roedd E wedi trefnu cwrdd â dyn o Lundain, Paul, i drafod y syniad o badlo o gwmpas Prydain gydag e. Ar ôl rhyw awr gadewais a gyrru ymlaen i Kingsbridge. Ces bryd o fwyd yn y bar ar ben y cei a pharatoi fy mhethau i wersylla dros nos. Daeth y lleill, gadewais fy nghar wedi ei barcio ar stryd gerllaw, a gyrron ni ymlaen i Thurlestone Sands. Aethom ar y môr tua 17.30 a phadlo i'r dwyrain am ryw awr nes cyrraedd Bae Soar.
Gwersyllom dros nos yno, wedi codi ein pebyll ar y tir uwchben y traeth.
Bore yfory roeddem ar y dŵr am 07.45. Padlom ymlaen a chyrraedd Kingsbridge am 10.00, ryw awr cyn penllaw. Rhan fwyaf anodd y penwythnos oedd cadw ar dddihun wrth yrru adre.


Y llwybr:
map Google