Sunday, September 1, 2013

Moelfre, Dydd Sadwrn 10 Awst 2013

Es o Draeth Bychan at Ddulas ac yn ôl. Roedd yn ddiwrnod agored y RNLI ym Moelfre a llawer o gychod o gwmpas. Trydarais: 'A'm maddeuo, wedi achub beiciwr modur dŵr gwympodd oddi ar ei feic ger Moelfre heddiw. Gas gen i feiciau modur dŵr.' https://twitter.com/hywelm/status/366227242143072256

Aberporth i Boppit, Dydd Mercher 7 Awst 2013

Padlais gyda Colin a Sue a Derek. Doedd hi ddim yn dwym iawn ac angen cag llwys byr arnaf. Gofynnodd menyw i mi a oedd ein ceufadio ar gael i'w llogi yn y Mwnt!
https://maps.google.co.uk/maps/ms?msid=203412124956633915799.0004e48fd808c8f85bb0e&msa=0&ll=53.34676,-4.568853&spn=0.007494,0.01929

Porth Swtan, Dydd Sul 21 Gorff. 2013

Roeddwn wedi mynd i Borth Swtan gan feddwl mynd o gwmpas Trwyn Cemlyn ond roeddwn wedi gwneud smonach o gyfrifo'r llanw a phan gyrhaeddais roedd y llanw wedi troi i'r gogledd yn barod. Erbyn i mi nesáu at Ynys y Mydlyn roedd yn llifo'n gryf. Troais yn ôl tra oeddwn i'n gallu. Es i lawr heibio i Borth Swtan hyd at ac heibio i'r creigiau i'r de cyn dychwelyd i'r dechrau.

Sir Benfro, Dydd Sul 14 - Llun 15 Gorff., 2013

Es i lawr i Sir Benfro ar fy mhen fy hun y tro hwn. Gwersyllais yn Hendre Einon nos Sadwrn ac ar Ddydd Sul es o gwmpas Ynys Dewi gan gychwyn a gorffen ym Mhorth Clais. Er ei fod yn neap, roedd y llif yn symud ar gyflymder o 8knt wrth i mi fynd o gwmpas gwaelod yr ynys.
https://maps.google.co.uk/maps/ms?msid=203412124956633915799.0004e1eb7fc53ff0c5296&msa=0

Dydd Llun es o Abergwaun i Gwm yr Eglwys ac yn ôl, a hynny yn y niwl yr holl ffordd. Dyma lun o Gastell y Corwynt: http://twitpic.com/d2yphd

https://maps.google.co.uk/maps/ms?msid=203412124956633915799.0004e1eb7bd0b108bbf21&msa=0

Sir Benfro, Dydd Gwener 5 Gorff - Sul 7 Gorff., 2013

Es i gwrdd â Colin a Sue a Dr Mike fore Dydd Gwener 5 Gorff. yn fferm West Hook, Martin's Haven, i badlo o gwmpas Ynysoedd Skomer a Skokholm. Cwrdd am 11 ac roeddem yn anelu bod ar y dŵr tua 1 o'r gloch. Dydd Gwener oedd y diwrnod cyntaf i gael gwynt teg ers sbel ac o ganlyniad roedd y môr yn eithaf garw o hyd pan aethom o gwmpas Skokholm. Erbyn i ni gyrraedd y gornel ar Skokholm cyn cychwyn yn ôl daeth niwl i mewn. Yn ffodus, doedd e ddim mor drwchus fel na allom weld tua 200m ac o ganlyniad roeddem yn gallu gweld y creigiau yn y môr o'n blaen wrth ddod o gwmpas y gornel.
https://maps.google.co.uk/maps/ms?msid=203412124956633915799.0004e1eb68034016d8dea&msa=0&ll=51.718946,-5.280476&spn=0.062213,0.154324
Tynnais lun o Skomer gda'r hwyr. http://twitpic.com/d10cfp/full

Aeth Dr Mike adre Dydd Gwener a dim ond y tri ohonom oedd ar ôl Dydd Sadwrn. Aethom o Martin's Haven i Sain Ffrêd.
https://maps.google.co.uk/maps/ms?msid=203412124956633915799.0004e1eb61eb2a98bac8b&msa=0&ll=51.755196,-5.208721&spn=0.062163,0.154324

Ar y Dydd Sul, es ar fy mhen fy hun i Sain Ffrêd eto, ond gan ddechrau o'r Hafan Gul.
https://maps.google.co.uk/maps/ms?msid=203412124956633915799.0004e1eb6f0dff5c70fbc&msa=0&ll=51.764972,-5.147438&spn=0.06215,0.154324

Ar draeth Sain Ffrêd cwrddais â dyn oedd ar fin gadael yn ei geufad. Ces wybod mai Simon Ford oedd ei enw a'i fod yn hyfforddi i geufadio ar ei ben ei hun o gwmpas Cymru, gan godi arian at ysbyty Felindre. Newydd ddarllen ei stori ydw i yma: http://www.walesonline.co.uk/news/local-news/sponsored-kayak-challenge-held-memory-5318874
http://www.justgiving.com/LookingOutForLinda
Des o hyd i'r adroddiadau canlynol amdano hefyd:
http://www.mayberrykayaking.co.uk/looking-out-for-linda/
http://www.seakayaking-adventures.com/2013/08/simons-exped-training.html?spref=fbhttp://www.seakayaking-adventures.com/2013/08/simons-exped-training.html?spref=fb
Ar ôl i mi gael tamaid o bicnic cychwynnais i ffwrdd a dal lan gyda Simon. Roedd y gwynt wedi codi i F3 i'n hwyneb ar y ffordd yn ôl. Pan gyrhaeddom yr Hafan Gul eto, sylweddolais fod y dŵr yno'n dwym a chydiais yn y cyfle i ymarfer rôl (x2) a mynd allan o'r cwch, mynd yn ôl iddo a rolio - i gyd yn llwyddiannus. Ac fe es am goffi gyda Simon wedyn a dymuno'n dda iddo am ei daith.