Tuesday, October 15, 2013

Ynys Echni. Dydd Sul 29 Medi 2013

Es ar fy mhen fy hun y tro hwn. Roedd yn F3-4 o'r dwyrain ac er ei fod yn llanw bach (8.4m) roedd y gwynt yn codi'r tonnau fel bod y daith i'r ynys yn eithaf garw. Pan gyrhaeddais ceisiais lanio ar y traeth ger y jeti fel arfer ond roedd yn rhy arw. Glaniais a thynnu'r spraydeck ond fe'm daliwyd gan y don nesaf a thynnwyd y cwch yn ôl i'r môr. Rhoddais y ffedog yn ôl yn ei le'n sydyn a rhoi'r gorau i'r ymdrech. Padlais yn ôl y ffordd yr oeddwn wedi dod, ar hyd ochr ogleddol yr ynys, a glanio ar y traeth caregog ar yr ochr orllewinol. Ces damaid i fwyta fan honno cyn crwydro lan i'r ffermdŷ a mynd i mewn. Gwyddwn fod pobl yno'n syth gan fod bwyd poeth yn sefyll ger y stôf ond er gweiddi helo ddaeth neb. Es allan eto a mynd tua'r drws cefn a chwrdd â Matt yr warden oedd yn dod i chwilio am y llais.

Es i mewn i'r ffermdŷ gyda Matt, a chwrdd â'r unig wirfoddolwr oedd ar ôl ar yr ynys, Harriet. Roeddwn wedi darllen ar Twitter yn ddiweddar fod y gweddill wedi ymadael â'r ynys. Eglurodd Matt y bydden nhw hefyd yn ymadael ymhen un diwrnod ar bymtheg gan fod y cyngor yn cau'r ganolfan. Mae Matt wedi bod ar yr ynys ers pum mlynedd ac fe fyddaf yn gweld ymweld â'r ynys heb gwrdd ag e yno yn chwith iawn. Yn ffodus iddo, mae wedi cael swydd arall, ar ynys arall, ynys Walney yng ngogledd Lloegr. Efallai y dylwn ymweld ag e yno rywbryd.

Es am dro o gwmpas yr ynys a gweld llawer o gwningod. Rhaid fod myxomatosis ar drai yno eto.

Ar y ffordd yn ôl roedd hi'n daith haws o lawer gyda'r gwynt ar fy nghefn a'r tonnau wedi diflannu bron yn llwyr. Taith wych unwaith eto.

No comments: